Tystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Gamddefnyddio Alcohol a Sylweddau

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau ac yn cyflwyno'r dystiolaeth a ganlyn mewn perthynas â'r cylch gorchwyl penodol.

Cyflwyniad

Mae dros £50 miliwn y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi i gyflawni'r ymrwymiadau yn Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' 2008-2018.  I gydnabod yr effaith andwyol y mae camddefnyddio sylweddau yn ei gael ar unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau, mae'r strategaeth yn nodi agenda cenedlaethol clir ar gyfer ymdrin â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau a'i leihau. Mae'r strategaeth yn cael ei chefnogi gan gynllun cyflenwi ynghylch camddefnyddio sylweddau ar gyfer 2013-15 sy'n nodi'r camau penodol sy'n cael eu datblygu yn y cyfnod hwn.

Mae buddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn cael effaith amlwg ar y gwasanaethau a ddarparwn i'r rhai y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau. Er enghraifft, yn 2013/14, cafodd 87% o'r holl gleientiaid fynediad at driniaeth camddefnyddio sylweddau o fewn 20 diwrnod i gael eu cyfeirio, sy'n gynnydd o 73% yn 2009/10. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno adroddiad yn flynyddol ar ei chynnydd wrth gyflawni'r camau gweithredu ar draws pob un o bedwar llinyn y strategaeth ac yn cynhyrchu proffil blynyddol manwl o ddata sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau bob blwyddyn.

 

1.         Effeithiau camddefnyddio alcohol a sylweddau ar bobl yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc a myfyrwyr prifysgol; pobl hŷn; pobl ddigartref; a phobl yn y ddalfa gan yr heddlu neu mewn carchardai.

 

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn cwmpasu defnydd o alcohol a chyffuriau ac wedi'i seilio ar egwyddorion 'lleihau niwed' ac 'adfer'. Y nod cyffredinol yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o'r peryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau i'w helpu i wneud dewisiadau gwybodus ac i wybod at bwy y gallant ofyn am help, triniaeth a chymorth.  Mae ein dull wedi ei wreiddio mewn agenda ataliol lle mae codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth a chyngor yn elfennau allweddol wrth atal a lleihau niwed. Yn ychwanegol at y buddsoddiad a roddwn tuag at wasanaethau triniaeth lleol, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o fentrau sy'n targedu'r boblogaeth gyfan a hefyd y rhai sy'n cael eu targedu'n fwy at grwpiau penodol.

 

Dulliau ar gyfer y boblogaeth gyfan

 

Dan 24/7

 

Dan 24/7 yw llinell gymorth camddefnyddio sylweddau ddwyieithog 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos Llywodraeth Cymru.  Mae ymwybyddiaeth a chyrhaeddiad y gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf wedi datblygu i fod yn ganolfan gyswllt aml-sianel, sy'n defnyddio'r ffôn, negeseuon testun, gwefan a chyfryngau cymdeithasol fel ffordd i bobl gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chefnogaeth.  Mae'r wefan yn cael ei diweddaru'n rheolaidd i gynnwys unrhyw gyffuriau newydd a restrir o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau'r DU ac mae'n cynnwys gwybodaeth am leihau niwed.

 

Mae DAN 24/7 yn parhau i gefnogi 'Gwybod y sgôr', ymgyrch barhaus gyda hysbysebion radio gyda ffocws ar negeseuon sy'n addysgu am gyffuriau ac alcohol. O ystyried yr achosion diweddar o hepatitis C, mae Dan 24/7 ar hyn o bryd yn cefnogi ymgyrch hepatitis C 'Peidiwch â chymryd siawns' sy'n tynnu sylw at y risgiau sy'n gysylltiedig â hepatitis C.

 

Mae DAN 24/7 yn cynnal ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn hefyd sy'n canolbwyntio ar gamddefnyddio alcohol a chyffuriau i addysgu'r cyhoedd am risgiau ac i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â'r rhain.

 

Ymyriadau Byr yn ymwneud ag Alcohol

Mae'r rhaglen Ymyriadau Byr yn ymwneud ag Alcohol yn cael ei defnyddio i helpu i leihau  camddefnyddio alcoholdrwy sgwrs wedi'i strwythuro a gynlluniwyd i ysgogi unigolion sy'n yfed gormod i feddwl yn wahanol am eu defnydd o alcohol ac i roi gwybodaeth iddynt sy'n eu galluogi i yfed diodydd alcoholig mewn ffordd fwy diogel. Hyd yma, mae dros 7,500 o bobl wedi cael eu hyfforddi i gyflwyno'r ymyriadau byr hyn o blith ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys gofal sylfaenol, gofal eilaidd, iechyd a gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol a'r lluoedd arfog.

Newid am Oes

Newid am Oes yw ymgyrch marchnata cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar, ac yn ymdrin â, gordewdra, bwyta'n iach, gweithgaredd corfforol ac alcohol.  Mae elfen yr ymgyrch sy'n ymwneud ag alcohol "Peidiwch â gadael i'r ddiod sleifio i fyny arnoch chi" yn targedu pobl nad ydynt efallai yn ymwybodol eu bod yn peryglu eu hiechyd drwy yfed mwy nag y dylent ac mae hefyd yn anelu at newid canfyddiadau pobl am eu hyfed, gan eu cael i sylweddoli hyd yn oed er nad yw eu hyfed efallai yn wrthgymdeithasol, nac yn effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd, ei fod yn effeithio ar eu hiechyd.

Hyd yma mae dros 72,000 o bobl wedi cael eu cofrestru ar gyfer yr ymgyrch ac mae llawer mwy wedi derbyn cyngor oddi ar y wefan, Facebook a Twitter.

Ionawr Sych 

Yn 2015, denodd ymgyrch  Alcohol Concern Cymru 'Ionawr' Sych' fwy na 900 i ymuno'n ffurfiol â'r cynllun yng Nghymru, ac mae gwybodaeth ar lawr gwlad yn dangos bod gwir nifer y rhai a gymerodd ran yn llawer uwch na hyn.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn glir, o ran yr agenda heriol hon sy'n symud yn gyflym, fod angen adolygu'r ymateb i bolisi'n barhaus i sicrhau ein bod yn gallu ymateb i dueddiadau newydd neu i rai sy'n dod i'r amlwg.  Mae hyn yn cynnwys cynnydd sylweddau seicoweithredol newydd; poblogaeth sy'n camddefnyddio sylweddau sy'n heneiddio a'r ymgyrch tuag at wasanaethau sy'n canolbwyntio ar adferiad. 

 

Rhaid i ni hefyd ganolbwyntio ar beth arall y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r costau cymdeithasol a'r costau cynyddol i iechyd o ganlyniad i niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Mae hyn wedi ein harwain i ymateb i'r dystiolaeth sylweddol bod gosod prisiau isaf am unedau alcohol yn fesur iechyd cyhoeddus effeithiol gyda'r nod o leihau'r niwed i iechyd sy'n gysylltiedig ag yfed gormod o alcohol. Felly, mae gwaith ar y gweill i gyhoeddi Bil drafft ar osod prisiau isaf am unedau alcohol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

 

Ochr yn ochr â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso am ddatganoli trwyddedu alcohol oddi wrth Lywodraeth y DU a fydd yn ein galluogi i gymryd y camau pellach sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.

 

 

Dulliau a dargedwyd

 

Rydym yn cydnabod bod rhai grwpiau megis plant a phobl ifanc mewn perygl arbennig. Rydym wedi dangos ymrwymiad i dargedu ein hymdrechion yn y maes hwn drwy neilltuo £2.75 miliwn o'r Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMAF) yn benodol ar gyfer gwasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc.  Mae enghreifftiau o ddulliau wedi'u targedu ar gyfer plant a phobl ifanc, ynghyd â grwpiau eraill a nodwyd trwy ymchwiliad y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

Plant a Phobl Ifanc - Steroidau a Chyffuriau Gwella Delwedd  (SIEDs)

 

Dros y degawdau diwethaf, mae'r defnydd o steroidau a chyffuriau gwella delwedd wedi dod yn fwy cyffredin ac mae pobl ifanc mewn perygl arbennig.  Ochr yn ochr â'r cynnydd yn y defnydd bu cynnydd cysylltiedig hefyd yn nifer yr heintiau a chymhlethdodau a adroddwyd sy'n gysylltiedig â'u defnyddio. 

 

Mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cronfa Ddata Lleihau Niwed sy'n cofnodi data gweithgarwch a demograffig am bobl sy'n chwistrellu cyffuriau ac sy'n defnyddio rhaglenni nodwyddau a chwistrellau statudol a gwirfoddol ledled Cymru.  Yn 2013-14, cofnododd y gronfa ddata 1,422 o ddefnyddwyr gwasanaeth o dan 25 oed, yr adroddwyd bod 75 y cant ohonynt yn defnyddio steroidau a chyffuriau gwella delwedd yn bennaf.

 

Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi datblygu pecyn cymorth addysgol i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed mewn perthynas â steroidau a chyffuriau gwella delwedd. Mae'r pecyn cymorth wedi ei gynllunio fel cyfres o weithdai y bwriedir iddynt gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc am y cyffuriau hyn a'r risgiau sy'n gysylltiedig. Mae pob gweithdy yn cynnwys nifer o weithgareddau rhyngweithiol a gynlluniwyd i ganiatáu i ddysgwyr archwilio'r pwnc, gan gryfhau eu dealltwriaeth a'u gallu i wneud dewisiadau gwybodus yn y dyfodol. 

 

Plant a Phobl Ifanc - Cwnsela

 

Rydym wedi cymryd camau i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael anawsterau emosiynol drwy ddatblygu gwasanaethau cwnsela. Mae £300,000 o'r Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cael ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau cwnsela, ac mae cyfran ohoni'n cael ei defnyddio yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc.  Mae hyn yn cynnwys cefnogi plant a phobl ifanc lle mae camddefnyddio sylweddau yn y teulu, neu gefnogi plant a phobl ifanc sydd yn camddefnyddio sylweddau eu hunain. O fewn ysgolion, mae cwnsela yn ategu'r gwahanol ddulliau sydd eisoes ar waith i gefnogi anghenion iechyd, emosiynol a chymdeithasol disgyblion. Drwy gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, gallwn eu hannog i osgoi ymddygiadau lle maent yn chwilio am risg.

 

Plant a Phobl Ifanc - Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (RhGCYCG)

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r RhGCYCG ar y cyd gyda'r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru.  Yn ystod y flwyddyn academaidd 2013/14, roedd y cynllun yn weithredol mewn 99.7% o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, sef cynnydd o 1.2% ar ffigurau 2012/13. Mae cynnwys gwersi yn cael ei adolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod gwybodaeth gyfredol am gyffuriau ac alcohol yn cael ei darparu.

 

Mae'r rhaglen wrthi'n cael ei hadolygu ac mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod yr argymhellion sy'n seiliedig ar ysgolion o adroddiad y Pwyllgor ar sylweddau seicoweithredol newydd, a gyhoeddwyd ar 18 Mawrth 2015, wedi cael eu cynnwys yn y cylch gorchwyl.

 

Myfyrwyr Prifysgolion

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â sefydliadau addysg bellach ac uwch ynghylch yfed cyfrifol, sylweddau seicoweithredol newydd a chyffuriau eraill.  Byddwn yn ystyried cynnwys camau penodol i ymdrin â hyn yn ein cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau nesaf ar gyfer 2016-18.

 

Pobl Hŷn

 

Rydym yn gwybod bod problemau gyda chamddefnyddio sylweddau yn y rhai dros 50 oed yn gysylltiedig â defnyddio alcohol yn bennaf, ond bydd cyffuriau anghyfreithlon a rhai wedi'u rhagnodi yn broblem hefyd. Yn gyffredinol, ystyrir mai dynion hŷn sydd yn y perygl mwyaf o gamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys alcohol a chyffuriau anghyfreithlon ond gallai menywod hŷn fod mewn mwy o berygl o wneud defnydd problemus o feddyginiaeth tawelu /hypnotig a meddyginiaeth sy'n lleihau pryder.  Ymhellach, mae rhai ffactorau sy’n berthnasol yn fwy cyffredinol i oedolion hŷn yn golygu y gallai camddefnydio sylweddau yn y grŵp hwn fod yn fwy cymhleth ac y gallent gyflwyno problemau rheoli a allai fod yn wahanol i’r rhai mewn pobl iau.

 

Mewn ymateb i'r heriau hyn ac er mwyn gwella mynediad at driniaeth a chefnogaeth cafodd Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio Sylweddau penodol - 'Gwella mynediad at driniaethau camddefnyddio sylweddau i bobl hŷn' ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 13 Tachwedd, 2014.

 

Rydym hefyd wedi gofyn i'r Panel Ymgynghorol arbenigol annibynnol ar Gamddefnyddio Sylweddau ystyried yr ymyriadau polisi sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau mewn poblogaeth sy'n heneiddio ac rydym yn disgwyl derbyn ei adroddiad ar y mater hwn yn ystod haf 2015.

Pobl Hŷn - Ychwanegu at Fywyd

'Ychwanegu at Fywyd' yw'r gwiriad iechyd a lles ar gyfer pobl 50 oed neu drosodd yng Nghymru. Mae'r hunanasesiad ar-lein hwn yn cynnwys adran ar alcohol, sy'n rhoi adborth i ddefnyddwyr ynghylch eu defnydd o alcohol ac awgrymiadau / cymorth ar sut i'w leihau lle bo angen hynny. Ers i 'Ychwanegu at Fywyd' gael ei gyflwyno'n genedlaethol mae 16,633 o bobl wedi mynd i'r safle gyda 7,926 o asesiadau iechyd a lles wedi'u cwblhau. 

Cyn-filwyr

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu triniaeth y GIG fel blaenoriaeth ar gyfer cyflyrau iechyd cyn-filwyr sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth milwrol a rhoi mynediad iddynt i wasanaethau arbenigol i gleifion mewnol. Yn Chwefror 2014 fe wnaethom hefyd ddatblygu canllawiau penodol i wella mynediad at driniaeth camddefnyddio sylweddau i gyn-filwyr a oedd yn amlinellu ystod o gamau gweithredu i gefnogi cyn-filwyr sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Rydym bellach yn gweithio'n agos gyda Byrddau Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau i weithredu'r canllawiau.

 

Triniaeth ar gyfer Troseddwyr yn y Ddalfa

 

Mewn perthynas â throseddwyr o fewn y lleoliad gwarchodol, canolbwyntiwyd ar wella cyflenwi darpariaeth gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar adegau allweddol, wrth iddynt gael eu derbyn ac wrth iddynt gael eu rhyddhau o'r ddalfa. Mae mynediad at gyngor cywir ac ymyrraeth glinigol yn parhau i fod yn thema amlwg ar gyfer y troseddwr cyn iddo fynd i'r ddalfa neu ar ôl iddo gael ei ryddhau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda NOMS a chynrychiolwyr o fyrddau iechyd lleol a'r Bwrdd Cynllunio Ardal lleol i wella'r gwasanaeth gan nyrsys arbenigol yng Ngharchar Caerdydd ac mae hyn yn cael ei ystyried mewn rhannau eraill o ystad carchardai'r sector cyhoeddus.

Mae cysylltiadau gyda'r Rhaglen Ymyriadau Cyffuriau a arweinir gan PCC ar draws Cymru wedi eu hen sefydlu ac yn caniatáu i lefelau arbenigol o driniaeth barhau lle mae'r angen yn cael ei nodi.

Pobl ddigartref

 

Mae cysylltiadau da wedi'u sefydlu rhwng Pwyllgorau Cydweithio Rhanbarthol y Rhaglen Cefnogi Pobl a Byrddau Cynllunio Ardal camddefnyddio sylweddau. Mae tri phrosiect peilot yn archwilio'r rhwystrau i ddiwallu anghenion pobl ddigartref sydd â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau gyda chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd wedi cael eu cwblhau, ac arweiniodd hyn at ddigwyddiad i roi adborth a chyflwyno arfer da yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2014.  Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Hydref 2014. 

 

Roedd adroddiad cynnydd, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015, ar y gwaith o Gyflwyno'r Safonau Iechyd ar gyfer Grwpiau Digartref a Rhai  Agored i Niwed, yn dangos cynnydd parhaus o ran mynediad at wasanaethau.

Daeth darpariaethau digartrefedd Deddf Tai (Cymru) 2014 i rym ar 27 Ebrill, 2015. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i helpu i atal a lleddfu digartrefedd, waeth beth yw statws eu hangen blaenoriaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn cael eu cynorthwyo i ymdrin â'u hanghenion o ran tai a'u hanghenion cysylltiedig.


 

2.         Effeithiolrwydd polisïau presennol Llywodraeth Cymru ynghylch ymdrin â chamddefnyddio alcohol a sylweddau ac unrhyw gamau pellach y gallai fod eu hangen

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ystod o fesurau i asesu effeithiolrwydd polisïau presennol Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â chamddefnyddio sylweddau.  Ochr yn ochr â gwerthusiadau annibynnol a gynhaliwyd ar brosiectau ac ymyriadau penodol rydym yn canolbwyntio ar nifer o ddangosyddion allweddol.

 

Marwolaethau oedd yn gysylltiedig ag Alcohol 2013

 

Dangosodd yr ystadegau diweddaraf, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 11 Chwefror 2015, fod 467 o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2013. Roedd hyn yn ostyngiad o 7.3 y cant ers y flwyddyn flaenorol (504). Roedd y gostyngiad hwn bron yn gyfan gwbl oherwydd y gostyngiad yn nifer y marwolaethau oedd yn gysylltiedig ag alcohol ymysg menywod, gyda nifer y marwolaethau yn gostwng o 193 yn 2012 i 161 yn 2103 (16.6%). Ymysg dynion, roedd 306 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yn 2013, gostyngiad o 5 (1.6%) o'i gymharu â 2012.

 

Marwolaethau oedd yn gysylltiedig â Chyffuriau 2013

 

Dangosodd yr ystadegau diweddaraf, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 3 Medi, 2014 fod 135 o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau (yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon) a 208 o farwolaethau o ganlyniad i wenwyno gan gyffuriau (yn cynnwys cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon) yng Nghymru yn 2013. Nid oedd newid yn y ffigurau marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau ers ffigurau 2012, tra bod y marwolaethau o ganlyniad i wenwyno gan gyffuriau yng Nghymru wedi gostwng o 6 (2.8%) o'i gymharu â 2012. Mae'r marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau a gwenwyno gan gyffuriau wedi parhau i ostwng ers 2010 pan gyrhaeddodd y ddau uchafbwynt o 162 a 224 yn y drefn honno.

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA)

 

Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yw'r ffynhonnell swyddogol o ddata a ddilyswyd ar gyfer darparwyr gwasanaethau trin ac mae'n galluogi Llywodraeth Cymru a Byrddau Cynllunio Ardal i fonitro ac adrodd am berfformiad yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol cenedlaethol o ran amseroedd aros a chyfraddau ymgysylltu.

 

Ar lefel genedlaethol, mae'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn dangos y bu gwelliant o 75.2% yn 2008/09 i 87.2% yn 2013/2014 yn nifer y bobl sy'n sicrhau amser aros o fewn 20 diwrnod rhwng atgyfeirio a thriniaeth.

 

Mae'r data diweddaraf hefyd yn dangos gostyngiad yng nghanran y bobl na wnaeth fynychu nac ymateb i gyswllt dilynol o 22.9% i 10% dros yr un cyfnod. 

 

Rydym hefyd wedi ymrwymo i fesur cynnydd o ran canlyniadau i gleientiaid (er enghraifft 'ansawdd bywyd yn gwella rhwng y dechrau a'r adolygiad diweddaraf / diwedd y driniaeth').  Mae'r mesurau hyn yn cael eu galw'n Broffiliau Canlyniadau Triniaeth (TOPs)  ac fe'u cyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2012/13. Felly, mae dadansoddi tueddiadau yn anodd ac mae darlun cymysg ar hyn o bryd ar draws y Byrddau Cynllunio Ardal oedd yn adrodd yn erbyn y mesurau hyn yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

 

Gwerthuso gweithredu'r strategaeth

 

Yn ystod 2012, cynhaliodd Prifysgol De Cymru broses werthuso annibynnol o'r strategaeth camddefnyddio sylweddau, a chafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ym Mehefin 2013.  Daeth y gwerthusiad i'r casgliad bod strategaeth Llywodraeth Cymru yn ei hanfod yn gadarn, a'i bod yn cael cefnogaeth eang. Cafodd y pwyslais ar alcohol yn ogystal â chyffuriau anghyfreithlon ei ganmol yn helaeth hefyd.  Gwnaeth y gwerthusiad nifer o argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gweithredu ers hynny.

 

Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2016 - 2018

 

Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar ddatblygu ein cynllun cyflawni terfynol i sicrhau bod y camau y byddwn ni a'n partneriaid cyflawni yn eu cymryd yn 2016-18 yn seiliedig ar dystiolaeth, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn rhai y gellir eu cyflwyno.  Wrth ddatblygu'r cynllun nesaf rydym wedi ceisio sicrhau ein bod yn gwneud hynny yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynhaliwyd chwe gweithdy i randdeiliaid ledled Cymru yn ystod mis Ebrill i archwilio pa gamau sydd eu hangen yn y cynllun cyflenwi nesaf er mwyn cyflawni'r canlyniadau a nodwyd o ran sylweddau. Mynychodd 109 o bobl o tua 50 o sefydliadau, gan gynnwys Tai, Prawf, yr Adran Gwaith a Phensiynau, defnyddwyr gwasanaeth, comisiynwyr a chynrychiolwyr addysg.

 

Bydd ymgynghori pellach yn parhau drwy gydol yr haf gyda'r cynllun cyflenwi drafft i fod i fynd allan ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yn ystod hydref 2015.

 

Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau (APoSM)

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio cyngor ar gyflawni ein gwaith ar gamddefnyddio sylweddau gan y Panel Cynghori annibynnol ar Gamddefnyddio Sylweddau. Rydym wedi cytuno ar raglen waith ar gyfer y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau ar gyfer 2014/15 sy'n cynnwys adroddiadau ar osod prisiau isaf ar gyfer uned o alcohol (a gyhoeddwyd: Gorffennaf 2014); adolygiad o tramadol a chyffuriau sy'n achosi cwsg ac adolygiad o'r ymyriadau polisi sy'n angenrheidiol i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau mewn poblogaeth sy'n heneiddio.

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae gennym hefyd gytundeb lefel gwasanaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud gwaith ar ein rhan mewn meysydd megis data mynychder, WEDINOS a gweithredu'r gronfa ddata lleihau niwed. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd i ddatblygu camau gweithredu i leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol. Mae hyn yn cynnwys arweiniad ar y broses o adolygu achosion o wenwyno angheuol a rhai nad ydynt yn angheuol a gwaith cyfredol mewn perthynas ag adolygu marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol.  Bydd gwersi o'r ddwy broses adolygu (angheuol /heb fod yn angheuol ac alcohol) yn helpu i lywio ymatebion polisi Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

 


 

3.         Gallu ac argaeledd gwasanaethau lleol ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth ac ymdrin ag effaith y niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a sylweddau.

 

 

Heriau sy'n dod i'r amlwg

 

O ystyried y ffaith fod yr agenda camddefnyddio sylweddau yn newid mor gyflym, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei hymateb polisi yn rheolaidd. 

 

Cydnabyddir bod y cynnydd yn y sylweddau seicoweithredol newydd yn rhoi mwy a mwy o alw ar wasanaethau.  Yn dilyn yr ymchwiliad diweddar a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 14 o argymhellion. Bydd camau gweithredu sy'n gysylltiedig â'r rhain, ynghyd â'r goblygiadau datganoledig o ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU ar yr NPS a chyngor pellach y gofynnwyd amdano gan y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cael eu hymgorffori yn y cynllun cyflenwi nesaf ar gamddefnyddio sylweddau.

 

Rydym yn gweithio hefyd gyda’r Swyddfa Gartref i sicrhau bod y ddeddfwriaeth arfaethedig i fynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd, a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines 2015, yn adlewyrchu safbwynt polisi Llywodraeth Cymru a’r maes darparu yng Nghymru.

 

Ar ben hynny, rydym yn gwybod bod poblogaeth sy'n heneiddio; mwy o ffocws ar ymdrin â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a'r ymgyrch tuag at wasanaethau sy'n canolbwyntio ar adferiad yn ogystal ag egwyddorion gofal iechyd darbodus yn gorfodi gwasanaethau i ailystyried eu modelau traddodiadol a symud tuag at un sy'n fwy hyblyg ac yn bodloni ystod amrywiol o anghenion.

 

Y Sefyllfa o ran Cyllid a Chyflenwi

 

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau lleol yn cynnwys dyraniadau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer camddefnyddio sylweddau i fyrddau iechyd lleol a thros £22 miliwn a ddarperir yn flynyddol, fel rhan o'r Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau i saith Bwrdd Cynllunio Ardal. Mae'r Byrddau Cynllunio Ardal - yn eu tro - yn gyfrifol am gomisiynu a darparu gwasanaethau ac ymyriadau polisi eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu strategaeth a chynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru. 

Ansawdd y Gwasanaeth / Safonau Craidd Cenedlaethol

Mae ansawdd y gwasanaethau yn cael ei sbarduno drwy gydymffurfio â Safonau Craidd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau.  Mae 25 o safonau craidd sy'n anelu at gryfhau llywodraethu ac atebolrwydd cynllunio a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau; sicrhau bod dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd yn cael ei integreiddio i'r holl weithgareddau allweddol sy'n ymwneud â chynllunio, adolygu a chyflwyno gwasanaeth; ac yn y pen draw, sicrhau bod yr ystod lawn o wasanaethau yn cael ei darparu yn effeithiol, yn ddiogel ac yn gyson ledled Cymru.

 

Mae trefniadau yn eu lle o fewn Llywodraeth Cymru i fonitro perfformiad Byrddau Cynllunio Ardal yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol, camau gweithredu Byrddau Cynllunio Ardal o fewn cynllun cyflenwi 2013-15 a'r safonau craidd cenedlaethol.

Gallu ac Argaeledd y Gwasanaethau

 

Er mwyn asesu'r heriau presennol a thueddiadau'r dyfodol, mae'n bwysig dadansoddi'r data sydd ar gael i lunio gwasanaethau.

 

i)Atgyfeiriadau

 

Roedd 24,806 o atgyfeiriadau yn 2013-14, heb gynnwys 39 o atgyfeiriadau lle na roddwyd unrhyw wybodaeth ar sail rhyw, a 5,233 o atgyfeiriadau pellach a gafodd  DNA cyn yr asesiad.

 

Cafodd 54% o'r atgyfeiriadau hyn eu disgrifio fel rhai gydag alcohol fel y prif sylwedd problemus ac roedd gan 39% gyffuriau fel y prif sylwedd problemus; mewn 6% o'r achosion ni chafodd y prif sylwedd problemus ei gofnodi adeg yr atgyfeiriad, er bod hyn wedi gostwng i 2% o achosion ar adeg yr asesiad.

 

Gwrywod oedd 62% yr atgyfeiriadau Alcohol a 72% o'r atgyfeiriadau Cyffuriau.

 

ii)               Triniaethau

Cyfanswm nifer y cleientiaid oedd yn dechrau triniaeth yn 2013-14 oedd 14,143, gostyngiad o 9% ar 2012-13. Yn 2013-14 nifer y cleientiaid Cyffuriau oedd yn dechrau triniaeth oedd 6685 o'i gymharu â 7168 o gleientiaid Alcohol.

iii)          Amserau Aros

 

O'r 14,136 o gleientiaid a ddechreuodd driniaeth (ac a oedd ag amseroedd aros dilys), cynyddodd y ganran a ddechreuodd o fewn 20 diwrnod gwaith o 73% yn 2009-10 i 87% yn 2013-14, gan barhau â'r duedd o welliant dros y cyfnod o 5 mlynedd .

 

Cafodd 84% (5,990) o'r cleientiaid ag alcohol fel y prif sylwedd problemus eu trin o fewn 20 diwrnod gwaith, tra cafodd 92% (6,132) o gleientiaid gyda chyffuriau fel y prif sylwedd problemus eu trin o fewn 20 diwrnod gwaith.

 

Rhaglen Strategol Law yn Llaw at Gymru Iach ar Waith: Rhaglen Gwasanaeth Mentora gan Gymheiriaid i Rai Di-waith (Camddefnyddio Sylweddau / Iechyd Meddwl)

Er mwyn ymdrin ag angen heb ei ddiwallu ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth a datblygu ar Brosiect Mentora gan Gymheiriaid ynghylch Camddefnyddio Sylweddau 2009-2014, mae Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn datblygu cais i Gronfa Gymdeithasol Ewrop.  Bydd y prosiect arfaethedig yn cefnogi pobl ddi-waith a rhai sy'n anweithgar yn economaidd yn y tymor hir sy'n gwella o gamddefnyddio sylweddau a/neu broblemau iechyd meddwl. Bydd y gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar gael gwaith, drwy fentora gan gymheiriaid a rhoi cymorth arbenigol ynghylch cyflogaeth.